P-04-324 Dywedwch Na i Tan 8 - Mae ffermydd gwynt a llinellau pŵer foltedd uchel yn difetha ein cymuned
Geiriad y ddeiseb
Mae ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005)’ gan Lywodraeth Cymru yn darparu cyngor a chanllawiau sydd, heb amheuaeth, yn arwain at halogi cefn gwlad brydferth canolbarth Cymru. Bydd dilyn y canllawiau hyn yn difetha eintirwedd brydferth; yn cynyddu’r perygl i iechyd a achosir gan belydriad electromagnetig; yn niweidio twristiaeth, sef un o’r prif sectorau cyflogaeth; yn datbrisio adeiladau ac yn achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd.
Pan gyhoeddwyd y nodyn cyngor technegol, a elwir yn TAN 8 yn aml, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005, nid oedd y boblogaeth leol yn amgyffred i ba raddau y byddai’n effeithio ar drigolion canolbarth Cymru. Bydd Nodyn Cyngor Technegol 8 yn caniatáu i gannoedd o dyrbinau gwynt gael eu hadeiladu yn ein cymunedau.
O ganlyniad i adeiladu’r ffermydd gwynt hyn, bydd yn rhaid i’r Grid
Cenedlaethol osod llinellau trawsyrru pŵer i gludo’r pŵer i le y bydd ei
angen, er ein bod yn cydnabod nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn
rhan o’r broses o benderfynu gosod y llinellau pŵer hyn.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru
i ymgymryd ag adolygiad sylweddol o bolisi TAN 8 a fydd yn cynnwys mwy o
ymgynghori â’r cyhoedd.
Linc i’r ddeiseb:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1017
Cynigwyd gan: John Day
Nifer y llofnodion: 3,249 o lofnodion. Casglwyd dros 13,500 o lofnodion
gan ddeisebau cysylltiedig.
Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 12 Mehefin, 21 Gorffenaf 2011.
Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd a Gwirfoddolwyr Abergorlech, Llansawel a Rhydcymerau.